Skip to Main Content

Dulliau Talu

 

Trwy ddrafft banc sterling

Student Dylai'r drafft banc fod yn daladwy i Goleg Abertawe. Argraffwch eich enw llawn, cyfeiriad a chwrs ar gefn y drafft a'i anfon i'r Swyddfa Ryngwladol.

Trwy drosglwyddiad banc

Gallwch dalu eich ffioedd drwy wneud trosglwyddiad banc uniongyrchol. Y manylion yw:

Enw'r banc: Barclays Bank
Rhif y cyfrif: 60834831
Cod Didoli: 20 84 41
Cyfeiriad SWIFT: BARCGB22

Trwy gerdyn credyd neu ddebyd

Gallwch dalu eich ffioedd mewn person, yn y Coleg neu dros y ffôn trwy gerdyn credyd neu ddebyd.

Amodau talu

Bydd pob myfyriwr o dramor yn talu blaendal o 20% am ei gwrs o leiaf 3 mis cyn i'w gwrs ddechrau. Nid oes modd trosglwyddo'r blaendal hwn o un tymor⁄flwyddyn i'r llall a gellir ei ad–dalu dim ond os yw'ch fisa myfyriwr neu gliriad mynediad yn cael ei wrthod. Bydd yr ail daliad o 80% o ffi'r flwyddyn gyntaf yn cael ei dalu pan fyddwch yn cofrestru.

Bydd rhaid talu blaendal o £200 o ffi'r ail flwyddyn cyn bydd rhaglen y flwyddyn gyntaf yn dod i ben, a bydd gweddill swm ffi'r ail flwyddyn yn cael ei dalu pan fyddwch yn cofrestru

Polisi ad–dalu

I gael ad–daliad, mae'n rhaid i chi ddarparu prawf ar ffurf rhybudd gwrthod gan Lysgenhadaeth Prydain neu'r Swyddfa Gartref. Codir tâl gweinyddol o £50 ar gyfer ad–daliadau. Nid oes unrhyw ostyngiad yn y ffioedd os ydych yn hwyr yn dechrau'r cwrs neu'n gadael y cwrs yn gynnar.

 

NI thelir ad-daliad os yw unrhyw un o'r canlynol wedi digwydd:

 

Mae'r myfyriwr wedi torri'r gyfraith neu amodau ei fisa ac mae'n rhaid iddo⁄iddi adael y wlad o ganlyniad
Mae fisa'r myfyriwr yn cael ei ddiddymu oherwydd nid yw'r myfyriwr yn mynychu'r cwrs yn gyson.
Mae'r myfyriwr wedi gweithredu'n groes i delerau ac amodau derbyn y Coleg.
Mae'r myfyriwr yn dymuno gadael y cwrs heb reswm da.
Ni roddir unrhyw ad–daliadau ar ôl i'r cwrs⁄rhaglen astudio gychwyn oni bai fod cwrs yn dod i ben ac nid yw cwrs arall addas ar gael.

 

Rhaid i bob cais am ad–daliad gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig, gyda manylion llawn yn esbonio pam y gofynnir am ad–daliad, a dylai unrhyw dystiolaeth ddogfennol berthnasol gael ei hatodi.

 

 

Download Methods of Payment leaflet