Skip to Main Content

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais i astudio yng Ngholeg Abertawe

 

Students

Os ydych chi'n gwybod pa gwrs yr hoffech ei astudio yng Ngholeg Abertawe dilynwch y camau isod. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu siarad â rhywun yn y Swyddfa Ryngwladol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r ffôn (++ 44 (0) 1792 201290), ffacs (++ 44 (0) 1792 205496) neu'r e-bost (international@swancoll.ac.uk).

 

Cam 1: Cam ymgeisio

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau drwy'r post, ffacs neu'r e-bost i Swyddfa Ryngwladol Coleg Abertawe. 

Clicwch yma i wneud cais

Bydd angen i chi anfon y canlynol atom o hyd:

Llun maint pasport o'ch hunan
Copïau o'r holl dystysgrifau cymhwyster a chyfieithiadau i'r Saesneg

 

Cam 2: Cam llythyr cynnig amodol

Ar ôl derbyn ac ystyried eich cais, bydd y Coleg yn rhoi cynnig amodol i chi. Bydd y llythyr cynnig amodol yn nodi'r hyn y bydd rhaid i chi ei wneud er mwyn cael eich derbyn a'ch cofrestru'n ddiamod yng Ngholeg Abertawe.

 

Cam 3: Cam Cadarnhau

Os hoffech dderbyn ein cynnig rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib. Pan fyddwch wedi bodloni amodau eich cynnig amodol a thalu eich blaendal 20%, byddwch yn derbyn llythyr diamod sy'n nodi eich bod wedi cael eich derbyn fel myfyriwr yn y Coleg. Bydd angen i chi ddefnyddio'r llythyr hwn pan fyddwch yn gwneud cais am eich fisa myfyriwr o Llysgenhadaeth Prydain neu'r Uchel Gomisiwn yn eich gwlad. Fe'ch cynghorir i wneud cais am y fisa myfyriwr cyn gynted â phosib.

 

Cam 4: Pecyn gwybodaeth

Byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth manwl i chi a fydd yn eich helpu gyda'ch trefniadau i astudio yn y DU, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch gwneud cais am fisa a chynghorion a ffeithiau defnyddiol am astudio, gweithio a byw yn y DU.

Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys ffurflen neilltuo llety. Bydd rhaid i chi gwblhau'r ffurflen hon a'i hanfon i'r Swyddfa Ryngwladol cyn gynted â phosib gyda'ch tâl gweinyddu £50 er mwyn i ni allu trefnu llety ar eich cyfer.

 

Cam 5: Y cam olaf

Byddwn yn cadarnhau eich trefniadau llety ac yn anfon manylion pellach atoch am gwrdd â chi yn y maes awyr a'ch cludo i Goleg Abertawe. Rhowch fanylion eich taith i ni cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu trefnu hyn (rhaid i ni gael o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd i wneud hyn).

 

Cam 6: Croeso

Bydd staff o'r Swyddfa Ryngwladol yn cwrdd â chi ar eich diwrnod cyntaf yn y Coleg - edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

International Office staff will meet you on your first day at the College – we are looking forward to meeting you!