Gair o Groeso gan y Prifathro
Rydym ni'n falch eich bod yn ystyried astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a byw yn ninas groesawgar a hardd Abertawe. Gallwch chi fod yn sicr o gyrsiau o ansawdd uchel a chymorth myfyrwyr ardderchog o'r eiliad rydych chi'n gwneud cais.
Trwy ddewis Coleg Gŵyr Abertawe, rwy'n gwybod y cewch chi'r cyfle gorau i lwyddo ar y cwrs o'ch dewis. Mae rhai o'n cyrsiau'n unigryw i Abertawe, ac yn denu myfyrwyr o sawl rhan o'r DU a thramor. Byddwch yn falch i wybod y byddwch chi'n dewis amgylchedd dysgu diogel hefyd wrth ddewis Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae gennym gysylltiadau ardderchog â phrifysgolion, felly mae gan fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe gyfleoedd gwych i symud ymlaen i gyrsiau Addysg Uwch (AU). Ar y llaw arall, efallai y byddwch chi am aros yng Ngholeg Abertawe, a dechrau cwrs lefel uwch, cyn symud ymlaen. Mae'r dewisiadau'n ddiddiwedd.
Yr hyn sydd gennym i'w gynnig yw addysgu o safon, cyfleusterau o'r radd flaenaf a lleoliad sydd cystal ag unrhyw ddarparwr addysg bellach arall yn y DU.
Gobeithio y byddwch chi'n ystyried Coleg Gŵyr Abertawe fel eich llwybr nesaf i lwyddiant!
Nick Bennett
Prifathro a Phrif Weithredwr