Llety
Gall y Swyddfa Ryngwladol eich helpu i drefnu eich llety cyn eich bod chi'n cyrraedd a darparu cymorth parhaus i chi yn ystod eich arhosiad. Mae dau fath o lety ar gael i fyfyrwyr.
Lawrlwytho ffurflen gais llety
Llety aros mewn cartref

Bydd aros mewn cartref wedi'i ddilysu a'i asesu ar gyfer risgiau fel aelod o'r teulu yn rhoi cyfle delfrydol i chi ddysgu'r cyfan am fywyd teulu ym Mhrydain, ac ymarfer eich Saesneg.
Bydd un ystafell sengl gennych mewn cartref cysurus gyda brecwast a chinio yn ystod yr wythnos. Efallai y bydd myfyrwyr eraill yn byw yn y tŷ, ond ni fyddant o'r un cenedligrwydd.
Mae'n orfodol i bob myfyriwr dan 18 oed aros gyda theulu sydd wedi'i ddewis yn arbennig. Mae hyn yn unol â'n polisïau a gweithdrefnau sy'n sicrhau bod lles a diogelwch y myfyriwr o'r pwys mwyaf.
Hefyd, argymhellwn fod pob myfyriwr yn aros gyda theulu am y mis cyntaf er mwyn iddynt gael cymorth ychwanegol yn ystod cyfnod cynnar eu harhosiad yma.
Codir tâl trefnu llety o £50 i dalu am gostau gweinyddol. Byddwch yn talu'r teulu sy'n eich croesawu yn uniongyrchol, trwy drefnu ymlaen llaw.
Costau
£98 yr wythnos (mae'n cynnwys brecwast a phryd bwyd yr hwyr, a chinio dros y Sul)
Bydd angen i chi dalu blaendal o 30% yn ystod y gwyliau os byddwch yn penderfynu dychwelyd adref neu fynd i deithio
Rhentu tŷ neu fflat
Os ydych yn gyfarwydd â byw'n annibynnol, ac yn hŷn na 18 oed, dyma'r dewis gorau i chi o bosib. Gallwch naill ai rannu tŷ neu fflat gyda myfyrwyr eraill a bod yn gyfrifol am goginio, glanhau a thalu biliau eich hun neu fyw ar eich pen eich hun.
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr mewn llety sector preifat yn byw mewn tai a rennir sydd fel rheol yn cynnwys nifer o ystafelloedd gwely sengl gyda chegin, ystafell(oedd) ymolchi ac ystafell fyw weithiau. Mae tai a osodir i fyfyrwyr bron bob amser wedi'u dodrefnu. Bydd yr hyn a gewch, a safon yr hyn a gewch yn amrywio o dŷ i dŷ oherwydd mae'r holl ddodrefn yn cael eu darparu gan y landlord.
Costau
Tua £55 i £75 yr wythnos (mewn llety a rennir)
Nid yw'r costau hyn yn cynnwys nwy a thrydan ond fel arfer maen nhw'n cynnwys trethi dŵr. Gallwn eich helpu i gael hyd i lety ar rent, ond nid ydym wedi archwilio'r adeiladau a bydd unrhyw gytundeb rhyngoch chi a'r landlord, nid y coleg. Byddwn yn ceisio darparu ar gyfer ceisiadau arbennig, ond ni allwn sicrhau hyn.