Eich Tiwtor
Clustnodir tiwtor personol i bob myfyriwr amser llawn yn y Coleg. Mae eich tiwtor yna i’ch helpu ymdopi wrth bontio o’r ysgol i’r coleg, i ddatblygu’ch sgiliau a rhoi cymorth i chi yn ystod eich cyfnod yn y Coleg.
Bydd staff darlithio, sy’n gweithio gyda chi a’ch tiwtor personol, yn eich helpu i ddyfeisio eich cynllun eich hunan o’r sgiliau rydych chi am eu datblygu. Gall y rhain gynnwys gwella sgiliau i’r safon iawn ar gyfer eich cwrs, gweithio gyda pherson â chymwysterau arbennig i helpu gydag anhawster dysgu arbennig, yn ogystal â pharatoi ar gyfer addysg uwch gan gynnwys paratoi ar gyfer cyfweliadau yn Rhydychen a Chaergrawnt a llefydd eraill.
Hefyd, gwahoddir rhieni neu warcheidwaid i nosweithiau rhieni i drafod eich cynnydd.
