Cymorth Dysgu
Gall y tîm Sgiliau Hanfodol roi gwybodaeth i chi sy'n diwallu'ch anghenion dysgu penodol. Maen nhw'n cynnig cyngor ac arweiniad wrth wneud cais hyd at gofrestru, gan sicrhau eich bod chi'n derbyn yr holl gymorth sydd angen arnoch chi er mwyn gwarantu llwyddiant.
Os oes angen offer neu gymorth arbenigol arnoch chi, byddwn ni'n trefnu hyn i chi. Bydd yn rhaid i chi hysbysu'r Coleg wrth wneud cais er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Mae Cymorth Dysgu yn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau allweddol a sylfaenol a chymorth dyslecsia sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr wella eu perfformiad. Sgiliau allweddol yw'r sgiliau hanfodol ar gyfer astudio ac am oes, maen nhw'n rhoi cyfle i chi gwblhau’ch cwrs yn llwyddiannus a byddan nhw'n rhoi'r sgiliau trosglwyddadwy i chi ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth.
Mae sgiliau'n cynnwys:
- Cyfathrebu
- Defnyddio rhifau’n ymarferol
- Technoleg gwybodaeth
- Ymchwilio’n effeithiol
- Gweithio gyda phobl eraill
- Datrys problemau
- Gwella dysgu eich hunan
Mae'r tîm yn defnyddio amrywiaeth o arddulliau dysgu ac addysgu i ateb eich anghenion unigol gan gynnwys trafodaethau grŵp, cyflwyniadau a gwersi preifat unigol.
