Skip to Main Content

Addysg 14-19Addysg OedolionAddysg UwchRhyngwladolHyfforddiant

Ein myfyrwyr

Anogir pob un o’n myfyrwyr i chwarae rôl weithredol ym mywyd y coleg.

Mae aelodau’r Cyngor Myfyrwyr yn cwrdd yn rheolaidd i drafod materion sy’n bwysig iddynt ac, ym mis Mawrth 2009, cynhaliwyd Cynhadledd gyntaf Myfyrwyr Coleg Abertawe yng Ngwesty’r Ddraig.

Mae dwy fyfyrwraig y Fagloriaeth Ryngwladol sef Jodie Palmer ac Eleri Chapman yn aelodau o Gorff Llywodraethu’r coleg ac yn chwarae rôl allweddol yn y broses ymgynghori a gwneud penderfyniadau, trwy fynychu amrywiol gyfarfodydd pwyllgor a helpu i oleuo penderfyniadau o’r persbectif myfyrwyr hollbwysig hwnnw.

Er 2003 mae ein myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn i godi arian at Ysgol Gynradd Madungu - bu eu menter ‘Prosiect Cenia’ yn llwyddiant ysgubol.

Bob blwyddyn rydym yn dathlu ‘gorau’r goreuon’ yn ein seremoni Gwobrau Myfyrwyr. Gyda thros 30 o gategorïau, y myfyrwyr buddugol yw’r rhai sydd wedi cyflawni llwyddiant academaidd rhagorol, wedi gwneud cynnydd gwych neu wedi bywiogi’r coleg gyda’u personoliaethau!