
Gyda chyfleusterau parcio ceir ar gyfer hyd at 150 o bobl, mae Plas Sgeti yn agos at ganol y ddinas ac o fewn cyrraedd hawdd i'r M4.
Yn enwog am ei Erddi Eidalaidd addurnedig, mae Plas Sgeti yn darparu'r lleoliad delfrydol ar gyfer priodasau, cynadleddau a chiniawau.
Mae'r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnwys wyth ystafell gynadledda sy'n darparu lle ar gyfer hyd at 80 cynrychiolydd, cyfleusterau gwledda ar gyfer hyd at 100 o bobl a thrwydded ar gyfer seremonïau priodas sifil.
Mae'r bwyta yn darparu profiad cinio cain i westeion, cynrychiolwyr a chleientiaid busnes. Mae'r fwydlen A La Carte yn cael ei chynnig bob dydd gyda chynnyrch lleol ffres yn ogystal â dewis eang o brydau bar yn y lolfa.
I gael mwy o wybodaeth am Blas Sgeti, cysylltwch â'r dderbynfa ar 01792 284011 neu ymwelwch â www.skettyhall.com
