
Canolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Rhestr Brisiau 2009/10 (PDF updated 1 Mehefin)
Mae Canolfan Broadway wedi’i lleoli ar ben uchaf prif gampws Tycoch ac mae Cefn Hengoed wedi’i lleoli ar dir yr ysgol gyfun yn Winch Wen.
Mae’r ddwy ganolfan yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau therapi gwallt, harddwch a chyflenwol ar brisiau cystadleuol i staff a myfyrwyr y Coleg ac aelodau’r cyhoedd fel ei gilydd.
Oriau Agor (Yn ystod y tymor yn UNIG)
Llun - Iau: 9am - 9pm
Gwener: 9am - 4pm
Mae Canolfannau Broadway a Chefn Hengoed bellach yn adnabyddus fel Canolfannau Rhagoriaeth ac maen nhw’n cynnig cyfle i’r myfyrwyr ddysgu hanfodion pob agwedd ar drin gwallt a therapïau cyfannol.
Mae’r rhaglen ‘Gradd Un’ Therapi Harddwch a Chyfannol yn darparu amrywiaeth o gyrsiau – gan gynnwys lefelau mynediad galwedigaethol, NVQ a Diploma – mewn amgylchedd modern a phroffesiynol gyda ffocws masnachol cryf.
Mae’r rhaglen Trin Gwallt hefyd yn faes ‘Gradd Un’ ac mae’n cyfuno astudio â gwibdeithiau addysgol i arddangosfeydd a sioeau masnach. Mae’r myfyrwyr yn dysgu amrywiaeth o dechnegau o dorri a sychu gwallt i byrmiau, aroleuadau a steiliau gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, ac maen nhw’n cynnig arlwy amryiol o wasanaethau i’w cwsmeriaid.
O ran harddwch, gall y myfyrwyr ddysgu popeth am driniaethau wyneb, triniaethau corff cywirol, colur, triniaethau dwylo a thriniaethau traed.
Mae’r rhaglen Gyfannol yn cwmpasu aromatherapi ac adweitheg, therapïau carreg, tylino chwaraeon a’r gelfyddyd hynafol Indiaidd sef triniaeth ‘Ayurvedic’.
