Skip to Main Content

Canolfan Byd Gwaith

Mae Coleg Gwyr Abertawe wedi darparu rhaglenni ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau ers 1998, gan ennill Prif Gontract y Fargen Newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer ardal Bae Abertawe yn 2006.

Trwy weithio mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe [SCVS] a Gyrfa Gorllewin Cymru, mae Coleg Abertawe yn darparu a rheoli rhaglenni’r Fargen Newydd sy’n helpu pobl leol i gael cyflogaeth gynaliadwy.

Menter y Llywodraeth yw’r Fargen Newydd gyda’r nod o wella rhagolygon gwaith pobl ddi-waith hirdymor trwy eu hannog i gymryd rhan mewn rhaglenni sy’n cyfuno profiad gwaith a hyfforddiant ymarferol â gweithgareddau magu hyder a chwilio am waith.

Cysylltwch:
Canolfan Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5LF
01792 284460
Ebost