Coleg Busnes
Fel cangen Gwasanaethau ar gyfer Busnes Coleg Abertawe, mae'r Coleg Busnes yn elwa ar gefnogaeth ac adnoddau un o'r Colegau Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, yn ogystal â gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad diwydiannol ein tîm o gydlynwyr.
Mae'r cyfuniad hwn yn cynnig y sefydlogrwydd y byddech yn ei ddisgwyl gan gorff mawr sefydledig ynghyd â'r arloesi, y cyflymder a'r hyblygrwydd y byddech yn ei ddisgwyl gan fusnes bach, sy'n canolbwyntio ar bobl.
Mae ansawdd yn werth craidd ym mhob gwasanaeth a gynigiwn, ac mae'r Coleg Busnes wedi datblygu i fod yn brif ddarparwr atebion busnes i sefydliadau yng Nghymru. Erbyn hyn mae ei ddalgylch yn ymestyn o Sir Benfro yn y Gorllewin i Gasnewydd yn y Dwyrain i Landrindod yn y Gogledd.... ac rydym yn parhau i dyfu!
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'n gwasanaethau cysylltwch à ni:
Coleg Busnes
1a Parc Sandringham
Bro Abertawe
Abertawe
SA6 8PW
Ffôn: 01792 284400
E-bost
