Amdanon Ni
Mae penderfynu pa goleg i’w fynychu a pha gyrsiau i’w dewis yn hynod o bwysig – gan fod y rhain yn benderfyniadau a fydd yn llywio gweddill eich bywyd.
Mae Coleg Abertawe, un o’r colegau addysg bellach mwyaf yn Ne-orllewin Cymru, yn gallu eich helpu i gymryd y cam hollbwysig hwnnw.
P’un ai ydych ar fin gadael yr ysgol, yn bwriadu hybu neu newid eich gyrfa, yn chwilio am waith, yn datblygu diddordebau personol newydd neu’n gobeithio symud ymlaen at Addysg Uwch…bydd cwrs gennym sy’n addas i chi.
Gobeithio y bydd ein gwefan ar ei newydd wedd yn rhoi blas i chi o’r hyn sydd gan Goleg Abertawe i’w gynnig – nid yn unig y cannoedd o gyrsiau amser llawn, rhan-amser a phroffesiynol sydd i’w dewis ond hefyd yr amrywiaeth eang o gyfleoedd allgyrsiol sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm, y cyfleusterau rhagorol sydd ar gael, y cymorth a ddarparwn ar gyfer pob un o’n myfyrwyr a’n cysylltiadau ardderchog â byd diwydiant.
Croeso i Goleg Abertawe!

Jeff Gunningham
Prifathro a Phrif Weithredwr
