Chwaraeon, Ffordd o Fyw a Busnes
Os ydych chi'n ddarpar chwaraewr, os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes eich hunan neu rydych chi am fod y Jamie Oliver nesaf, peidiwch ag edrych yn bellach na Chwaraeon, Ffordd o Fyw a Busnes.
Mae pob un o'r pynciau'n hynod o boblogaidd ac mae digon o gyfleoedd allgyrsiol yn cael eu cynnig, gan gynnwys profiad gwaith, ymweliadau addysgol, siaradwyr gwadd ac arweiniad i entrepreneuriaid. Bwriad y cyrsiau yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi er mwyn symud ymlaen at gyflogaeth neu Addysg Uwch ym maes chwaraeon, hamdden, twristiaeth, busnes, lletygarwch neu wasanaethau cyhoeddus.
Mae'r gyfadran yn gartref i'r Ganolfan Datblygu Chwaraeon adnabyddus sy'n ymrwymedig i ddatblygiad corfforol, personol a deallusol athletwyr sy'n fyfyrwyr. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i chwaraewyr gael addysg chwaraeon o safon uchel tra'u bod nhw'n dilyn rhaglen academaidd amser llawn o'u dewis.
Bydd staff yn ymdrechu i roi pob cymorth a chyngor sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo gan geisio gwireddu eich holl botensial mewn amgylchedd creadigol ac ysgogol.
