Peirianneg, TG a Thechnoleg
Trwy gynnig cwricwlwm modern sy'n gysylltiedig ag anghenion diwydiant a'r gymuned, mae'r gyfadran hon yn gam ardderchog i gicdanio'ch dyfodol. Wedi'i ddarparu gan staff cefnogol a chyfeillgar, byddwch chi'n siŵr o gael y datblygiad dysgu rydych chi'n edrych amdano mewn amgylchedd cyfoes.
Bwriad y cyrsiau yw rhoi dewis o lwybrau i chi i amrywiaeth o ddisgyblaethau ar gyfer Addysg Uwch neu gyflogaeth. Byddan nhw'n rhoi cyfle i chi ddatblygu'ch sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd wrth wraidd creu systemau a gwasanaethau Peirianneg a TG.
Mae gan y gyfadran ystafelloedd gwaith sy'n llawn cyfleusterau arbennig yn ogystal â meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol i chi archwilio. Byddwch chi’n siŵr o fwynhau gweithio gyda'r technolegau diweddaraf a chael y cyfle i gymhwyso'r hyn rydych chi’n ei ddysgu mewn ffordd ymarferol a realistig.
