Skip to Main Content

Addysg 14-19Addysg OedolionAddysg UwchRhyngwladolHyfforddiant

Addysg 14-19

Os ydych chi newydd adael yr ysgol, mwy na thebyg y byddwch chi wedi treulio cryn amser yn meddwl am beth i’w wneud nesaf.

Os nad ydych chi wedi penderfynu ar eich llwybr gyrfa yn y dyfodol neu rydych yn weddol sicr beth yw’ch uchelgais, gall Coleg Abertawe eich helpu i gymryd y cam hollbwysig nesaf.

Mae Coleg Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn - gan gynnwys Safonau Uwch a llwybrau galwedigaethol - mewn pynciau mor amrywiol â Chwaraeon, y Celfyddydau Perfformio, Harddwch, Trin Gwallt, Busnes, TG ac Electroneg.

Hefyd, rydym wedi datblygu rhagor o gyfleoedd i astudio’r Diwydiannau Creadigol, Rheoli Gweinyddiaeth, Gofal Plant, Dysgu a Datblygu, Coginio Proffesiynol, Cynhyrchu yn y Cyfryngau a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai.

Mae’r coleg yn buddsoddi’n helaeth yn ei amgylcheddau dysgu gyda gwaith ailwampio mawr yn y llyfrgell, labordai gwyddoniaeth a’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr. Hefyd mae cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf yn yr adrannau Holisteg, Lletygarwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i enwi dim ond ychydig...

Mae Coleg Abertawe yn lle cyffrous a bywiog i astudio ac rydym yma i’ch helpu i wneud y penderfyniadau iawn am eich dyfodol.

I wybod rhagor am ein hamrywiaeth o gyrsiau amser llawn ewch i’r ddewislen ar ochr chwith y dudalen hon.

Fel arall, gallwch chi gysylltu â ni ar 01792 284000 neu galwch heibio i siarad ag un o’n cynghorwyr myfyrwyr cyfeillgar.